Croeso i wefan Cymunedau’n Gyntaf Parc Sgeti. Mae Parc Sgeti yn gymuned llawn amrywiaeth; cymuned groesawgar o breswylwyr, siopau a busnesau. Ychwanega hyn oll at brofiad, doethineb a chymeriad y gymuned. Mae dros 25 gr?p yma yn ymwneud â nifer o ddiddordebau a gweithgareddau, gan gynnwys bowlio, boladdawnsio, corau, crefftau a llawer mwy.
Yn ôl yr ystadegau, mae Parc Sgeti yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Sefydlwyd Cymunedau’n Gyntaf er mwyn rhoi cyfle i bobl leol gymryd rhan weithredol wrth lunio dyfodol eu cymuned. Mae pobl leol yn hanfodol wrth helpu i gynyddu cyfleodd a chanfod datrysiadau lleol i broblemau lleol. Rydym am wybod eich barn a’ch pryderon. Eich mewnbwn a’ch cyfranogiad chi fydd yn newid y gymuned er gwell.
Wrth i Cymunedau’n Gyntaf barhau i ddatblygu ym Mharc Sgeti, byddwn yn gweithio i sefydlu partneriaeth o bobl leol â diddordeb mewn bod yn rhan o wella Parc Sgeti. Yn y dyfodol, bydd y cylchlythyr hwn yn cynnwys manylion ein cynnydd, ein partneriaid, ein prosiectau a’n gweithgareddau lleol. Byddwn yn eich hysbysu ynghylch y math o waith rydym yn ei wneud a sut mae pethau’n datblygu’n lleol. Ym misoedd Gorffennaf ac Awst byddwn yn cynnal cyfarfodydd cymunedol lleol i’ch hysbysu ynghylch yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud, a rhoi’r cyfle i chi ddweud eich dweud. Cynhelir ein cyfarfod cyntaf ddydd Llun, 27 Gorffennaf, am 7pm yng Nghanolfan Gymunedol Parc Sgeti.
Er mwyn i ni wneud gwahaniaeth, hoffwn glywed eich sylwadau a’ch barn. Ffoniwch ni ar 284740, neu galwch heibio i’r swyddfa yn 134 Cwrt y Clun.
—————————————————————————————————————————————-
Mae’r tim Cymunedau Gyntaf

Claire Jones – Gweithiwr Datblygu Cymunedol
Helo! Fy rôl newydd ym Mharc Sgeti yw eich cefnogi chi fel trigolion lleol i ddatblygu a gwella eich cymuned, canfod yr hyn sy’n bwysig i chi, a’ch helpu i wneud y newidiadau fydd yn gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned. Rydw i wedi bod yn ymwneud â gwaith cymunedol ers wyth mlynedd, ac rwy’n edrych ymlaen at dreulio’r tair blynedd nesaf yma yn Sgeti.
claire.jones@swansea.gov.uk Ffôn: 284740 / 07775 410779

Nasir Shahzad – Swyddog Gweinyddol a Chyllid
Fy rôl yma ym Mharc Sgeti yw cefnogi’r tîm i gyflawni rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yn y ffordd fwyaf effeithiol bosib. Mae ein swyddfa yn 134 Cwrt y Clun, felly galwch heibio a fi fydd yr wyneb hapus yn eich croesawu. Rydw wedi bod yn gwneud gwaith cymunedol drwy nifer o sefydliadau gwirfoddol gwahanol yn ystod y bum mlynedd diwethaf. Nawr, fel un o drigolion Parc Sgeti, edrychaf ymlaen at weithio dros fy nghymuned.
nasir.shahzad@swansea.gov.uk Ffôn: 284740
Jason Williams – Cydlynydd Cymunedau’n Gyntaf
Fel cydlynydd, fy rôl yw goruchwylio Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf ym Mharc Sgeti, datblygu cysylltiadau cryf rhwng sefydliadau yn y gymuned, a chefnogi pobl leol i ddod â newidiadau cadarnhaol a gwella Parc Sgeti. Rwyf wedi gweithio mewn datblygu cymunedol ers dros wyth mlynedd, a’r pedair diwethaf fel Cydlynydd Cymunedau’n Gyntaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
jason.williams@swansea.gov.uk Ffôn: 284740 / 07827 822714


